Cardiff Uni Medicine Taster Day: choose Fri 19 or Sat 20 June 2020/Diwrnod Blas ar Feddygaeth Prifysgol Caerdydd: dydd Gwener 19 Mehefin neu ddydd Sadwrn 20 Mehefin 2020

Actions Panel

Registrations are closed

Sgroliwch i lawr i weld y testun Cymraeg / Please scroll down for Welsh Really sorry but there are no places left for this date. If you want to join our waiting list, we will contact you if there is a cancellation. Alternatively, Cardiff University has general Open Days on Wednesday 1 April and Friday 3 July 2020, at which you can still see some of our Medicine activities and facilities but also take a look at the residences, Students' Union, city life etc. To book for one of those, please go to http://www.cardiff.ac.uk/study/undergraduate/open-days-visits. Mae’n ddrwg iawn gennym, ond nid oes lleoedd ar ôl ar gyfer y dyddiad hwn. Os hoffech fod ar ein rhestr aros, byddwn yn cysylltu â chi os oes rhywun yn canslo. Fel arall, bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnal diwrnodau agored cyffredinol Dydd Mercher 1 Ebrill a dydd Gwener 3 Gorffennaf 2020 ar y diwrnodau hynny, cewch gyfle i fwrw golwg ar rai o’n gweithgareddau a'n cyfleusterau Meddygaeth yn ogystal â gweld preswylfeydd, Undeb y Myfyrwyr, bywyd y ddinas, ac ati. I gadw lle ar gyfer un o’r rhain, ewch i http://www.caerdydd.ac.uk/study/undergraduate/open-days-visits.

Cardiff Uni Medicine Taster Day: choose Fri 19 or Sat 20 June 2020/Diwrnod Blas ar Feddygaeth Prifysgol Caerdydd: dydd Gwener 19 Mehefin neu ddydd Sadwrn 20 Mehefin 2020

By Yr Ysgol Meddygaeth - School of Medicine

Date and time

Fri, 19 Jun 2020 08:45 - Sat, 20 Jun 2020 16:00 GMT+1

Location

Cochrane Building

Heath Park Campus University Hospital of Wales Cardiff CF14 4YU United Kingdom

Description

Sgroliwch i lawr i weld y testun Cymraeg / Please scroll down for Welsh

Due to concerns around the coronavirus (COVID-19), we have decided that it is in the best interests of our staff, students and attendees to cancel all upcoming events for prospective students. We sincerely apologise for any inconvenience and disappointment this may cause you. We are really proud of our staff, students and facilities and were looking forward to meeting you and showing you around.

...............................................................

Year 12 or above? A Medicine Taster Day can help you choose where and what you want to study.

Our two identical events are fun and free and will provide you with lots of useful information about studying medicine at Cardiff University School of Medicine.

  • Try your hand at clinical skills

  • Meet our students

  • Chat to our staff

  • Ask our admissions team questions

  • Find out what it's really like to be a Cardiff medical student and junior doctor

  • Hear about our admissions processes and discover what Cardiff University School of Medicine is looking for in its candidates

  • See the great facilities we have to offer you as a Cardiff medical student

...and much more (including a free lunch).

Your day involves a mixture of workshops, talks and practical clinical skills sessions designed to help you make that important next step. Get advice on getting into med school, try your hand with clinical skills and simulation and find out more about where your MBBCh could take you.

We also have a carefully-crafted programme for a parent/guardian, teacher or careers advisor, should you want to book a place for them too (but please don't book yourself a place on the parent/guardian, teacher or careers advisor's programme if you are a student).

Demand is high and space is limited so, to be fair to everyone, please ensure that you book for one day only and bring no more than one accompanying person to the event. (Luckily it is just a short car or bus ride to Cardiff city centre, where there is plenty to see and do, including shopping, museum, art gallery, restaurants, cinemas, theatres, parks and lots more.)

Got that? Great, and we'll see you in June.

Not sure whether to book? See what our med students say about their course.

Is the date you want booked out? Come see us at one of Cardiff University's Open Days on Wednesday 1 April or Friday 3 July 2020.

2020 Student Medicine Taster Day programme, English

2020 Accompanying people Medicine Taster Day programme, English

Oherwydd y pryderon ynghylch y Coronafeirws (COVID-19), er lles ein staff, ein myfyrwyr a’r rhai oedd yn bwriadu dod, rydym wedi penderfynu canslo pob digwyddiad ar gyfer darpar fyfyrwyr. Mae’n ddrwg iawn gennym am unrhyw anghyfleustra a siom y bydd hyn yn ei achosi. Rydym yn falch iawn o'n staff, ein myfyrwyr a'n cyfleusterau ac roeddem yn edrych ymlaen at eich cyfarfod a’ch tywys o gwmpas.

.................................................................

Blwyddyn 12 neu hyn? Gall Diwrnod Blas ar Feddygaeth eich helpu i ddewis beth i'w astudio a ble i'w astudio.

Bydd ein dau ddigwyddiad hwyl ac am ddim, sydd ag union yr un amserlen, yn cynnig llawer o wybodaeth ddefnyddiol i chi ynglŷn ag astudio meddygaeth yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.

Cyfle i roi cynnig ar sgiliau clinigol

Cwrdd â'n myfyrwyr

Sgwrsio â'n staff

Gofyn cwestiynau i'n tîm derbyn

Dysgu am sut beth yw bod yn fyfyriwr meddygaeth a meddyg iau yng Nghaerdydd

Clywed am ein prosesau derbyn a'r hyn mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yn chwilio amdano yn ei hymgeiswyr

Gweld y cyfleusterau gwych sydd gennym ar eich cyfer chi fel un o fyfyrwyr meddygaeth Caerdydd

...a llawer mwy (gan gynnwys cinio am ddim).

Bydd eich diwrnod yn cynnwys cymysgedd o weithdai, cyflwyniadau a sesiynau sgiliau clinigol ymarferol i'ch helpu i wneud y cam pwysig nesaf. Cewch gyngor ynglŷn â sut i gael lle yn yr Ysgol Meddygaeth, cyfle i roi cynnig ar sgiliau clinigol ac efelychu, a chael gwybod mwy am lle gall eich MBBCh eich cymryd.

Mae gennym raglen a gynlluniwyd yn ofalus ar gyfer rhiant/gwarcheidwad, athro neu gynghorydd gyrfaoedd, os ydych am gadw lle ar eu cyfer hefyd (ond peidiwch â chadw lle ar gyfer eich hun ar y rhaglen i rieni/gwarcheidwaid, athrawon neu gynghorwyr gyrfaoedd os ydych yn fyfyriwr).

Mae'r galw yn uchel ac mae lleoedd yn brin, felly er mwyn bod yn deg i bawb, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw lle ar gyfer un diwrnod yn unig ac yn dod â dim mwy nag un person gyda chi i'r digwyddiad. (Yn ffodus mae canol dinas Caerdydd dim ond taith fer i ffwrdd mewn car neu fws, ac mae digon i'w weld a'i wneud yno, gan gynnwys siopa, amgueddfa, oriel gelf, bwytai, sinemâu, theatrau, parciau a llawer mwy.)

Popeth yn glir? Gwych, fe welwn ni chi ym mis Mehefin.

Dal ddim yn siŵr a ydych chi am gadw lle? Darllenwch farn ein myfyrwyr am eu cwrs.

A yw'r dyddiad sy'n well gennych yn llawn? Dewch i'n gweld yn un o Ddiwrnodau Agored Prifysgol Caerdydd ddydd Mercher 1 Ebrill neu, dydd Gwener 3 Gorffennaf 2020.

2020 Students Medicine Taster Day programme, Cymraeg

2020 Accompanying people Medicine Taster Day programme, Cymraeg


Sales Ended